Amynedd Wrth Gleddyfa

Pryd oeddwn i’n dyfalu pwnc i ysgrifennu am yr wythnos yma, dydw i ddim wedi cael ddigon o amser i wneud erthygl am droedwaith, wnes i ddod ar draws erthygl gan thefencingcoach. Yno mae’n trafod cleddyfa yn araf a sut i gweithredu i bobl eraill. Mae’r erthygl ar gael yma. Nawr rwyf am drafod pwnc tebyg, amynedd ac yn fwy pwysig sut i fod yn fwy amynedd wrth gleddyfa.

I ddweud y gwir bydd well gyda phawb sefyll ar y piste, clywed y dyfarnwr yn ddatgan cleddyfa, cyflawni pump trawiad medrus a gorffen y gêm yn yr amser mae’n cymerid i ddweud supercalifragilisticexpialidocious. Yn anffodus dydy hyn ddim yn gweithio gan i fod yn anwybyddu deinamig cleddyfa. Mae’n gamgymeriad mae llawer o gleddyfwyr newydd yn i wneud ac i fod yn onest wnaeth effeithio fi pryd wnes i ddechrau cleddyfa eto. Mae diffyg amynedd yn natur dyn ac fel pob agwedd o gleddyfa i adfer mae rhaid hyfforddi eich hun.

1) Aseswch beth mae’r gwrthwynebwyr yn wneud – Yn ddelfrydol mae rhaid wneud penderfyniadau mewn eiliadau, edrychwch ar eich gwrthwynebwr a gwerthuswch. Aseswch y pellter, ble mae’r cleddyf a mwy. Gadewch eich opsiynau yn agored a gweithredwch y weithred orau. Dychmygwch cleddyfa fel gwyddbwyll, mae’n bosib symid eich darnau yn ddi-hid ond bydd yn cynyddu’r siawns bydd rhywun sy’n canolbwyntio yn curo chi. Felly wnewch siŵr byth anghofio meddwl a pheidiwch cleddyfa yn ddi-nod.

2) Cof Cyhyr – Ffurf o motor learning sy’n osgoi adwaith naturiol y corff a’i chyfnewid gyda ymateb fwy addas. Mae’n hynod o bwysig wrth cleddyfa, pario ydy’r enghraifft fwyaf amlwg. Rydych wedi safio amser os ydych yn gallu creu eich pari riposte i edrych fel ymateb naturiol. Bydd hyn yn gadael i chi fod yn fwy amyneddgar achos mae eich amser ymateb wedi lleihau.

3) Rheoli eich anadl – Mae anadl bur a clou yn cynyddu curiad y galon ac yn cynyddu’r siawns byddwch yn gwneud camgymeriadau a penderfyniadau dwl. Ar y llaw arall os ydych yn arafu byddwch yn ymlacio gan fydd amser yn teimlo ei fod wedi arafu hyd yn oed os dydy e ddim. Cymerwch ddigon o aer i’r meddwl ac fel dywediad clwb rygbi Glynebwy “iach gorff, iach feddwl”

4) Osgoi symudiadau amlwg – Does dim eisiau gwneud symudiadau mawr gyda’r fraich, wnewch siŵr fod popeth yn daclus a twt.

5) Ac yn olaf PEIDIWCH BANIG! Sy’n disgrifio ei hun.

A dyma ni, cwpwl o eiriau rwy’n gobeithio bydd yn ddefnyddiol.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s